Dilynwch ni:

Twitter YouTube
Facebook Like us

Cysylltu â ni

Contact us

Newyddion ebost?

Email updates?

Offer:

Anfon
at ffrind

Send to friends

 

Argraffu:

Print

 

Maint y
testun:

Text Size - Small Text Size - Normal Text Size - Large

Cwestiynau ac Atebion


Yma, cewch atebion i rai o cwestiynau am ein gwaith. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael mewn nifer o fannau eraill hefyd. Rydym wedi amlygu’r rhain trwy’r ddogfen hon i gyd a gobeithio y bydd hynny o gymorth i chi.

Cewch ddarllen rhagor am yr holl themâu a godwyd yn ein hymgynghoriad yn yr hydref 2015 yn ein Stage Two feedback report.Mae hyn yn cynnwys ein holl ymatebion a gallai’ch helpu i ateb cwestiynau sydd heb eu cynnwys isod.

Ein cynlluniau

Beth yw’ch bwriad chi ar gyfer y cysylltiad newydd?

Rydym wedi dewis twnnel fel y ffordd orau o fynd o dan Afon Menai ac wedi nodi lle gallem roi’r offer y mae arnom eu hangen i newid o linell uwch ben i gebl tanddaear.  Mae’r twnnel, sydd tua 4km o hyd, yn mynd y tu hwnt i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac mae’n golygu bod ein hoffer ni yn bellach o’r arfordir ac o gymunedau. 

Mae llwybr y llinell uwchben newydd yn agos at y llinell bresennol. Mae hyn yn golygu y gallwn gymryd llwybr uniongyrchol gan gadw draw o’r cymunedau mwyaf a pheidio â rhoi peilonau mewn ardaloedd newydd. Rydym wedi dewis peilon rhwyllwaith tebyg i’r rhai sydd yn y llinell bresennol. Credwn mai dyma’r dewis gorau i leihau effeithiau gweledol gan na fydd yn cyflwyno siapiau gwahanol i’r dirwedd.

Credwn mai ein cynlluniau ni yw’r ffordd orau o gael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar y dirwedd, twristiaeth, cymunedau, y dreftadaeth ddiwylliannol a’r amgylchedd ehangach, gan sicrhau cysylltiad a fydd yn cynnig gwerth eu harian i’r bobl sy’n talu’r biliau.

Ydych chi wedi ystyried effaith bosibl eich gwaith ar dwristiaeth?

Rydym yn cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw twristiaeth i’r ardal ac i’r economi ac rydym wedi ystyried hyn ar bob cam o’n gwaith.

Trwy gadw’r ail linell yn agos at y llinell bresennol, rydym yn cadw draw o’r arfordir sy’n arbennig o boblogaidd gyda thwristiaid. Mae hefyd yn osgoi’r trefi a’r pentrefi mwyaf, safleoedd treftadaeth a thirweddau sy’n denu ymwelwyr.

Yn ardal Afon Menai, rydym wedi dewis twnnel a fydd yn ymestyn yn eithaf pell o’r arfordir. Mae hyn yn golygu y byddwn y tu allan i’r AHNE ac yn cadw draw o Blas Newydd a Stad y Faenol – pob un yn ardaloedd poblogaidd gydag ymwelwyr. 

Yn 2014, comisiynwyd astudiaeth annibynnol ledled y Deyrnas Unedig gan National Grid i edrych ar effaith ein prosiectau seilwaith mawr ar ffactorau cymdeithasol-economaidd: ‘A study into the effect of National Grid major infrastructure projects on socio-economic factors’. Helpodd hyn ni i ddeall mwy am effaith prosiectau cysylltiadau newydd ar fusnesau, yn enwedig rai sy’n dibynnu ar dwristiaeth.

Canfu’r astudiaeth bod 93 y cant o bobl yn teimlo nad oedd y seilwaith newydd wedi amharu ar eu busnes a bod 83 y cant o bobl yn teimlo nad oedd y seilwaith newydd wedi amharu ar yr ardal leol.

Rydym yn cynnal astudiaeth leol, debyg yn y gogledd i gyfrannu at ein hasesiadau ac i werthuso’r effeithiau posibl ar Ynys Môn. Caiff hon ei hystyried fel rhan o'n cynlluniau a'i chynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol a fydd yn mynd gyda'n cais am ganiatâd.

Serch hynny, mae’n bwysig nodi mai dim ond un o’r ffactorau niferus yr ydym yn eu hystyried yw twristiaeth ac mai’n tasg ni yw canfod y cynllun gorau o ran cydbwyso’r effeithiau ar bob un ohonynt.  Er enghraifft, rhaid ystyried eiddo, y dirwedd, treftadaeth, ecoleg ac anghenion technegol (ymhlith pethau eraill) wrth geisio sicrhau cydbwysedd.

Pam y mae arnoch angen ail gysylltiad? Allwch chi ddim defnyddio’r llinell bresennol?

Bydd Wylfa Newydd yn cynhyrchu bron dair gwaith cymaint o ynni â’r atomfa Magnox bresennol.
 
Er mwyn cludo’r holl bŵer yn ddiogel i’r cartrefi a’r busnesau lle mae ei angen, bydd gofyn i ni ddefnyddio’r llinell bresennol a chodi ail gysylltiad. Bydd Wylfa Newydd yn defnyddio’r ddwy linell.

Pam na allwch chi roi’r cysylltiad cyfan o dan y ddaear?

Gwyddom y byddai’n well gan lawer o bobl pe baem yn rhoi’r cysylltiad cyfan o dan y ddaear ac rydym wedi edrych yn ofalus ar yr opsiwn hwn.

Rydym yn deall manteision gweledol rhoi'r cysylltiad cyfan o dan y ddaear a'r manteision i'r dirwedd, ond mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i ffactorau ehangach.

Gall tanddaearu gyflwyno gofynion technegol ychwanegol gan fod ceblau tanddaear yn ymddwyn yn wahanol i linellau uwchben. Mae cloddio ffosydd agored neu dwnnel ar gyfer ceblau tanddaear yn debygol o greu mwy o drafferth na gosod llinellau uwchben, a gall hynny arwain at effeithiau amgylcheddol neu gymdeithasol-economaidd arwyddocaol. Mae hefyd filiynau o bunnau yn fwy costus na llinellau uwchben, a gallai hynny olygu biliau uwch i ddefnyddwyr trydan.

Mae ein rheoleiddiwr Ofgem yn mynnu ein bod yn ystyried y costau’n ofalus ac mae’n rhaid i ni gyflwyno cynlluniau sy’n cynnig gwerth am arian i’r bobl sy’n talu'r biliau. O ystyried y gwahaniaethau yn y gost rhwng cysylltiad tanddaear ac un uwchben ar draws yr holl brosiectau rydym yn gweithio arnynt yn y Deyrnas Unedig, byddai’n costio biliynau o bunnau’n fwy i’r bobl sy'n talu'r biliau pe byddem yn rhoi’r holl gysylltiadau o dan y ddaear.

Yn ogystal, mae'n rhaid i ni ystyried effeithiau unrhyw waith trwsio annisgwyl ar ein cysylltiadau, er enghraifft difrod a achosir gan drydydd parti neu nam eithriadol ar y llinell. Pe bai hynny’n digwydd a bod angen cloddio at y ceblau i’w trwsio, gallai gymryd mwy o lawer o amser i ganfod y nam a’i drwsio ar gebl tanddaear nag ar linell uwchben.  Mae’n rhaid i ni feddwl yn ofalus iawn am hyn oherwydd mae arnom ddyletswydd i sicrhau bod y rhwydwaith trydan yn ddibynadwy bob amser.

Fel rheol, rydym yn defnyddio cysylltiadau tanddaear lle nad oes modd dewis llwybr sensitif ar gyfer llinell uwchben. Hyd yma ar Ynys Môn, mae ein hasesiadau wedi’n harwain at dwnnel 4km o hyd. Credwn y bydd hynny’n lleihau effeithiau posibl y cysylltiad yn ardal afon Menai a’r AHNE yn ehangach.

Pam na allwch chi roi’r llinell bresennol dros Afon Menai yn yr un twnnel ag yr ydych yn ei gloddio ar gyfer yr un newydd?

Pan fydd cwmni cynhyrchu trydan yn gofyn am gael cysylltu â’n rhwydwaith ni, mae’n rhaid i ni ddatblygu’r cysylltiad hwnnw yn unol â nifer o amodau sy’n cael eu pennu a'u rheoleiddio gan y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys darparu cysylltiad sy’n bodloni anghenion y cwmni cynhyrchu ac sy’n cynnig gwerth am arian i ddefnyddwyr, gan fod costau’r cysylltiad yn cael eu pasio ymlaen i bawb ohonom yn ein biliau trydan. Oherwydd yr amodau hyn, ni chawn ymestyn ein prosiect y tu hwnt i'r gwaith y mae angen ei wneud i gysylltu'r trydan newydd a gynhyrchir. Yng ngogledd Cymru, mae hyn yn golygu na chawn ariannu gwaith tanddaearu’r llinell bresennol fel rhan o’r prosiect gan nad yw’n rhan angenrheidiol o wneud y cysylltiad ar gyfer Wylfa Newydd.
 
Ond gwyddom pa mor werthfawr yw Afon Menai ac AHNE Ynys Môn i bobl a dyna pam rydym wedi ymrwymo i danddaearu’r cysylltiad newydd yma.
 

Allwch chi ddim defnyddio’r hen biblinell olew danddaear?

Rydym wedi ystyried y posibilrwydd o roi’r cysylltiad y tu mewn i’r biblinell. Mae gofynion ein cysylltiad ni yn wahanol iawn ac nid yw’r biblinell bresennol yn ddigon mawr i'n galluogi i fynd iddi a gosod yr holl geblau y bydd arnom eu hangen. 
 
Ni fyddem yn gallu gwneud gwaith cynnal a chadw a thrwsio mewn piblinell o’r maint hwn ac ni fyddai digon o le i’r gwres y byddai’r ceblau’n ei gynhyrchu gael ei wasgaru’n iawn.

Rydych yn rhoi ceblau o dan y ddaear yn Ardal y Llynnoedd. Pam na allwch chi wneud yr un peth ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd?

Rydym yn mynd ati yn yr un ffordd i ddatblygu’r cysylltiadau ar gyfer ein holl prosiectau yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys talu sylw i ddynodiadau arbennig fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEoedd). Mae’r rhan fwyaf o’n prosiectau yn defnyddio cyfuniad o dechnolegau a dyna a wneir ar Ynys Môn ac yn Cumbria.

Fel rhan o brosiect North West Coast Connections, bwriadwn roi’r cysylltiad o dan y ddaear wrth iddo basio trwy Barc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd ac o dan Fae Morecombe. Bwriadwn ddefnyddio llinellau uwchben ar gyfer gweddill y cysylltiad (tua 119km).

Yn yr un modd, bwriadwn gael twnnel tanddaear yn ardal afon Menai sy’n ymestyn allan y tu hwnt i’r AHNE.

Cewch ddarllen rhagor am hyn, a’n ffordd o fynd ati i roi ceblau o dan y ddaear, yma.

Pam nad ydych yn tanddaearu’r llinell uwch ben bresennol sydd dros Afon Menai fel rhan o’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP)?

Grŵp Cynghori annibynnol ar gyfer Rhanddeiliaid, gyda chynrychiolwyr o sefydliadau fel YDCW, Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol Cymru, Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Croeso Cymru, sydd wedi arwain y prosiect VIP.
 
Er mwyn penderfynu pa rai o’r lleoliadau ar y rhestr fer fyddai’n cael eu dewis, bu'n rhaid cynnal adolygiad a dadansoddiad manwl. Roedd y llinell yn Eryri, ger Porthmadog, yn un o’r prosiectau a ddewiswyd gan ei bod mewn Parc Cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried codi trydedd pont ar draws Afon Menai. Oni allwch chi roi’r cysylltiad ar hon?

Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ers peth amser i geisio deall eu cynlluniau ar gyfer trydedd pont ar draws y Fenai. Wrth i’r cynlluniau hyn ddatblygu, byddwn yn parhau i adolygu ein cynlluniau. Ond hyd nes y ceir cynllun terfynol, gyda chyllid a chaniatâd pendant, ar gyfer trydedd pont ar draws y Fenai, bydd raid i ni symud ymlaen â’n cynlluniau presennol i gysylltu Wylfa Newydd.

Os bwriedir cynhyrchu rhagor o ynni, a fydd angen trydedd llinell o beilonau arnoch?

Does dim byd i awgrymu y bydd angen trydydd cysylltiad. Dim ond prosiectau sydd â chytundeb i gysylltu gyda ni y gallwn eu hystyried. 
 
Os bydd rhagor o ynni’n cael ei gynhyrchu yn y gogledd a mwy o ddatblygwyr yn gofyn i ni am gytundebau cysylltu, bydd angen i ni edrych ar y ffordd orau o gysylltu’r ynni hwnnw â’r rhwydwaith ynni. Gellir cynnwys yr holl ynni y bwriedir ei gynhyrchu ar hyn o bryd yn y llinell uwch ben bresennol a’r ail gysylltiad y bwriadwn ei ddatblygu.

Mae gan Orthios gytundeb i gysylltu gyda chi erbyn hyn. Beth mae hynny’n ei olygu?

Ym mis Rhagfyr 2015, cwblhaodd Orthios y broses o brynu gwaith Alwminiwm Môn ar Ynys Môn.
 
Bydd Parc Eco Orthios yn cynnwys gorsaf bŵer biomas ac yn awr mae ganddynt gytundeb cysylltu gyda ni i gyflenwi’r pŵer y bydd yn ei gynhyrchu i’r grid trydan cenedlaethol.
 
Bydd yr orsaf bŵer biomas yn cynhyrchu llai o lawer o drydan na Wylfa Newydd ac felly ni fydd angen i ni wneud llawer o waith i gynnwys y pŵer ychwanegol hwn. Bydd yn golygu cael ychydig o offer ychwanegol yn ein his-orsaf yn yr Wylfa a gwneud tipyn o waith ar y llinell uwch ben 132kV o Gaergybi i’r Wylfa.

Adeiladu a thrafnidiaeth

Faint o amser fydd ei angen i adeiladu’r cysylltiad?

Credwn y bydd y gwaith adeiladu’n cymryd pedair neu bum mlynedd i gyd, gyda rhagor o amser ar gyfer gwaith plannu a gwaith arall i helpu i adfer y tir.
 
Mae’n debygol y byddwn yn gweithio ar wahanol adrannau ar hyd y llwybr ar wahanol amserau ac felly ni fyddwn yn gweithio ar y cysylltiad cyfan trwy'r amser. Byddwn yn dechrau ac yn gorffen gweithio mewn rhai adrannau tua dechrau’r broses adeiladu ac yn dechrau ac yn gorffen gweithio mewn eraill tua’r diwedd. Gan ei fod mor gymhleth, bydd yn cymryd mwy o amser i wneud y twnnel a byddwn yn gweithio ar hwn trwy’r cyfnod adeiladu i gyd.

Ar ba ffyrdd bydd y traffig adeiladu’n teithio a sut y byddwch yn ceisio cadw’r traffig i lifo?

Rydym yn bwriadu defnyddio ffyrdd yr A55, yr A5 a’r A5025 gan mai'r rhain yw’r prif ffyrdd sydd agosaf at ein gwaith. Bydd angen i ni ddefnyddio ffyrdd gwledig addas, llai o faint, oddi ar y rhwydwaith priffyrdd hefyd i gyrraedd y safleoedd lle byddwn yn adeiladu ein hoffer.
 
Bydd angen cario’r rhan fwyaf o’r offer ar lorïau cyffredin. Bydd angen faniau a cheir i gario gweithwyr yn ôl a blaen i'r safle hefyd. Bydd angen rhai cerbydau mwy o faint i gario deunyddiau penodol, fel y ceblau ar gyfer y twnnel, sy’n dod ar ddrymiau mawr. Er mwyn dewis llwybrau addas ar gyfer y cerbydau adeiladu, rydym wedi ystyried sut orau i leihau’r effeithiau ar ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys pobl leol a thwristiaid.
 
Rydym yn cydweithio’n agos â’r cynghorau sir lleol, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill i ofyn am eu barn nhw ynghylch y ffyrdd sydd fwyaf tebygol o leihau’r effeithiau ar yr ardal.

Pa draffig adeiladu a ddaw o ganlyniad i’ch gwaith ar Afon Menai?

Er mwyn cloddio’r twnnel, bydd angen offer arbenigol arnom. Mae rhai darnau o'r offer hyn yn fawr ac yn drwm a gall fod angen cerbydau mawr i’w cludo yn ôl a blaen i safle’r twnnel. Byddai’r cerbydau hyn yn fwy na lorïau arferol ac yn symud yn arafach o lawer. Er  mwyn diogelwch, gall fod angen cerbydau hebrwng arnynt. Fodd bynnag, dim ond ychydig o’r rhain y byddai arnom eu hangen.
 
Er mwyn gwneud y twnnel, bydd angen cloddio miloedd o dunelli o gerrig a phridd. Bydd angen dod â llawer o ddeunyddiau i’r safle hefyd, fel agregau a leininau concrid. Bydd angen llawer o deithiau lori yn ôl a blaen i safle'r twnnel i wneud hyn. Fodd bynnag, bydd gwaith adeiladu’r twnnel yn digwydd dros sawl blwyddyn, a bydd tipyn o amser rhwng teithiau’r lorïau bob dydd.
 
Er mwyn helpu i beidio â tharfu ar ddefnyddwyr ffyrdd yr ardal, byddem yn edrych ar nifer o gamau y gallem eu cymryd. Byddai’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, gyfyngiadau amseru ar deithiau er mwyn osgoi adegau prysur fel oriau brig y bore a’r prynhawn.

Tir a iawndal

Pryd rydych yn talu iawndal i bobl am eich gwaith?

Rydym yn talu iawndal ble bynnag yr ydym yn croesi tir (uwchben neu o dan y ddaear) ac rydym yn cydweithio'n agos â pherchnogion tir ledled ardal y prosiect i weld lle bydd hyn yn berthnasol. Hoffem annog unrhyw un sydd â phryderon am ein cynlluniau ni a’u heiddo nhw i gysylltu â ni fel y gallwn ddeall eu hamgylchiadau’n well a mynd i’r afael â’u pryderon os oes modd.

A oes iawndal os bydd effaith ar brisiau tai?

Pan fyddwn yn gwneud cysylltiad newydd, rydym bob amser yn ceisio osgoi cymunedau a thai unigol hyd y bo modd. Rydym yn siarad yn rheolaidd â phobl yr ardal fel y gall eu sylwadau nhw ddylanwadu ar gynllun y cysylltiad newydd a helpu i leihau unrhyw ansicrwydd. Rydym hefyd yn adolygu ein cynllun yn rheolaidd er mwyn asesu pa effeithiau y gallai eu cael ac a oes opsiynau eraill i’w cael.
 
Rydym wedi gweithio’n galed i wneud hyn wrth ddatblygu ail gysylltiad Wylfa Newydd a theimlwn fod y cynllun a gynigiwn yn golygu mai ychydig o dai sy'n agos at ein gwaith. Dim ond os yw ein hoffer yn cael ei osod ar dir neu yn ei groesi yr ydym yn talu iawndal, ond gwyddom fod pobl yn bryderus am effaith ein gwaith ar eu heiddo. Rydym wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â pherchnogion eiddo i weld a oes ffyrdd y gallwn leihau effeithiau ein cynlluniau eto. Rydym bob amser yn hapus i glywed oddi wrth berchnogion eiddo a hoffem annog unrhyw un sy’n bryderus am eu heiddo i siarad â’n tîm fel y gallwn ystyried eich sylwadau.

EMFs

Beth yw Meysydd Trydanol a Magnetig (EMFs)?

Mae Meysydd Trydanol a Magnetig (EMFs) i’w cael ble bynnag y defnyddir trydan. Daw'r rhan fwyaf o’r EMFs sydd o’n cwmpas o’r gwifrau yn ein cartrefi ac o’r dyfeisiau trydan a ddefnyddiwn ond maent yn dod o linellau pŵer (uwchben a thanddaear) hefyd.

Ydych chi wedi ystyried effeithiau iechyd EMFs fel rhan o’ch cynlluniau?

Gwyddom fod pobl yn bryderus am effeithiau posibl EMFs ar iechyd ac rydym yn ystyried y mater hwn yn ddifrifol iawn wrth gynllunio ein gwaith. Mae gan y llywodraeth ganllawiau ar lefelau derbyniol o EMFs. Cafodd y rhain eu pennu yn annibynnol gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd a'i olynwyr. Gan ein bod yn cydymffurfio'n llwyr â holl bolisïau'r llywodraeth ar hyn, ni fydd EMFs sy'n gysylltiedig â'n cynlluniau ni yn amharu ar iechyd.

Rydym wedi cytuno gyda’r Arolygiaeth Gynllunio y byddwn yn cyhoeddi adroddiad am ein hymateb i EMFs. Bydd hwn yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd y bydd ein prosiect yn cydymffurfio â’r holl ganllawiau a pholisïau perthnasol a bydd ar gael i’r cyhoedd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rydym wrthi’n edrych yn fanwl ar ein cynlluniau ar sail yr hyn yr ydych wedi’i ddweud wrthym, gan ystyried canllawiau perthnasol y polisïau cynllunio. Byddwn yn edrych ar yr holl benderfyniadau a wnaethom hyd yma i weld a oes ffyrdd eraill o leihau effeithiau ein gwaith.

Pan fyddwn yn fodlon bod y cynlluniau’n barod, byddwn yn paratoi ein cais a’r dogfennau ategol. Bydd hyn yn cynnwys Adroddiad ar yr Ymgynghoriad, i esbonio sut yr ydym wedi talu sylw i’ch barn chi, a Datganiad Amgylcheddol, i esbonio effeithiau amgylcheddol tebygol ein cynigion. 

Yna, byddwn yn cyflwyno’n cais i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, trwy’r Arolygiaeth Gynllunio. Disgwyliwn mai yn yr hydref eleni y bydd hyn. 

Os caiff cynllun Wylfa Newydd ei ohirio, fyddai’ch prosiect chi’n cael ei ohirio hefyd?

Dim ond ar gyfer yr amserlenni sydd ar gael i ni y gallwn gynllunio. Bwriad Horizon yw i Wylfa Newydd ddechrau cynhyrchu trydan erbyn canol y 2020au ac felly mae’n rhaid i ni fod yn barod i ddarparu cysylltiad erbyn hynny.
 
Os bydd amserlenni Horizon yn newid am ryw reswm, bydd angen i ni adolygu ein hamserlenni niyn unol â hynny.

Y gadwyn gyflenwi, cyfleoedd am yrfaoedd a swyddi

A fydd eich gwaith yn creu swyddi neu gyfleoedd ar gyfer busnesau lleol?

Rydym yn rhan o’r rhaglen Ynys Ynni sy’n ceisio sicrhau bod Ynys Môn ar flaen y gad ym maes datblygu ynni carbon isel.
 
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn amcangyfrif y gallai’r rhaglen gyfrannu £12 biliwn at economi Môn a gogledd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf. Gallai hyn ddod â manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mawr i Ynys Môn yn gyfan a’r gogledd yn ehangach.
 
Rydym ni yn National Grid yn cydweithio â rhai o’r cwmnïau gorau, bach a mawr, ledled y Deyrnas Unedig, i sicrhau bod ein gwaith yn cyrraedd y safonau uchel y mae’r wlad yn eu disgwyl. Gan fod ein prosiectau mor fawr, mae cyfleoedd gwych i fusnesau lleol tra byddwn yn gweithio mewn ardal.
 
Boed hynny’n is-gontractio ar waith adeiladu, llogi peiriannau neu ddarparu llety ac arlwyo, mae ein prosiectau’n rhoi hwb i economïau lleol. Yn ogystal â manteision i fusnesau, gall hyn arwain at gyfleoedd am swyddi newydd.

Pa gyfleoedd sydd yna am yrfaoedd gyda National Grid?

Rydym yn awyddus i ysbrydoli pobl yn y gogledd, a ledled y Deyrnas Unedig, i fod yn beirianwyr y dyfodol. Rydym hefyd am wneud gwahaniaeth i’r ardaloedd yr ydym yn gweithio ynddynt trwy gydweithio’n agos ag ysgolion a grwpiau ieuenctid. 
 
Trwy ymweliadau ag ysgolion, ein rhaglen brentisiaethau ac adnoddau addysgol, rydym yn galluogi miloedd o bobl i wireddu eu potensial ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), mewn gyrfaoedd a fydd o fudd iddyn nhw, eu cymunedau, ein heconomi a chymdeithas yn gyffredinol. Rydym eisoes yn cynnal nifer o weithgareddau gydag ysgolion a grwpiau cymunedol yn y gogledd.
 
Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, os ydych wedi graddio neu eisoes wedi cychwyn eich gyrfa, rydym bob amser yn chwilio am bobl ddawnus i ymuno â’n tîm. Cewch wybod mwy yn careers.nationalgrid.com

Cofrestru

Cofrestru   >

Cewch gofrestru i gael y newyddion diweddaraf am y prosiect